Oddi Wrth: y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

At: y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dyddiad: 14 Ionawr 2016

Teitl: Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2016-17

 

Diben

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd ar 16 Hydref yn eu gwahodd i roi tystiolaeth ar y cynigion sydd ganddynt yn y Gyllideb Ddrafft a gofyn iddynt gyflwyno papur ar y Gyllideb Ddrafft.

 

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ar 8 Rhagfyr 2015.  Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gynigion cyllidebol Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016-17.

 

Trosolwg o'r Gyllideb

 

2016-17

Refeniw

£m

Gwaelodlin DEL diwygiedig 2015-16

6486.5

Dyraniad MEG

260.0

Trosglwyddiadau MEG i MEG

(15.3)

DEL diwygiedig ar adeg Cyllideb Ddrafft 2015

6731.2

Cyfalaf

 

Gwaelodlin DEL diwygiedig 2015-16

219.6

Dyraniad MEG

33.4

DEL diwygiedig ar adeg Cyllideb Ddrafft 2015

253.0

Cyfanswm Cyffredinol MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

6984.2

Nid yw'r tabl yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) am nad yw'n rhan o Derfyn Gwariant Adrannol (DEL) Llywodraeth Cymru.

 

Caiff y newidiadau o gyllideb ddiwygiedig 2015-16 eu crynhoi isod:

 

Refeniw: Cynnydd o £244.6 miliwn

 

Dyraniad MEG

·         £200.0 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn unol â blaenoriaeth adolygiad o wariant Llywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG yng Nghymru

·         £30.0 miliwn i gynyddu'r Gronfa Gofal Canolraddol i £50.0 miliwn

·         £30.0 miliwn i gynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ac iechyd meddwl

MEG i MEG

·         £(14.8) miliwn i'r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu mewn perthynas ag ad-dalu cynlluniau Buddsoddi i Arbed

·         Trosglwyddiad o £(0.5) miliwn i'r MEG Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu mewn perthynas ag Arolwg Iechyd Cymru ar ôl integreiddio sawl arolwg mawr, sefydledig i greu un arolwg.

 

Cyfalaf:

Dyraniad MEG

·         £33.4 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn rhaglen gyfalaf Cymru Gyfan

 

Mae manylion yr holl drosglwyddiadau i'w gweld yn Atodiad A i'r papur hwn a cheir dadansoddiad yn ôl lefel BEL yn Atodiad B. 

 

Asesiad Effaith Integredig - Atodiad C

O ganlyniad i gyfyngiadau amser eleni, roedd yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ar 8 Rhagfyr yn canolbwyntio ar y penderfyniadau gwariant strategol hynny a adlewyrchai flaenoriaethau'r Cabinet wrth iddo wneud ei benderfyniadau. 

 

Cytunwyd y câi manylion am benderfyniadau gwariant penodol eu cynnwys mewn papurau tystiolaeth gan Weinidogion i Bwyllgorau'r Cynulliad.   Mae Atodiad C i'r papur hwn yn manylu ar effaith yr holl benderfyniadau gwariant pwysig o fewn y MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

Y Cynigion Cyllidebol

Y newid cyllidebol mwyaf sylweddol i'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2016-17 yw'r buddsoddiad ychwanegol o £260 miliwn mewn gofal iechyd, a ddangosir o fewn y Cam Gweithredu 'Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd'. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod y gyllideb hon yn fwy nag y bu erioed a bydd yn cyfrif am 48 y cant o'r cyllid a ddyrannwyd i Adrannau Llywodraeth Cymru yn 2016-17.

 

Cefnogir y buddsoddiad hwn gan dystiolaeth yr adolygiad annibynnol o gyllid GIG Cymru a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014. Dylanwadodd canfyddiadau ei hadroddiad, sef 'Degawd o Galedi yng Nghymru', ynghyd â'r wybodaeth o gynlluniau integredig y Byrddau Iechyd Lleol, ar ein penderfyniad i ddarparu £225m yn ychwanegol i'r GIG yn 2015-16.  Wrth baratoi ar gyfer y Gyllideb eleni ac fel rhan o'r gwaith trawsbynciol a wnaed gennym i ystyried sut y gallwn reoli pwysau o fewn ein prif feysydd gwasanaeth, aethpwyd ati i ddiweddaru model Nuffield er mwyn adlewyrchu'r tybiaethau diweddaraf ynglŷn â phwysau gwariant ac effeithlonrwydd yn y GIG.  Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad clir i sicrhau GIG cynaliadwy yng Nghymru yn seiliedig ar y diwygiadau a nodir yn adroddiad Nuffield, sydd hefyd yn cydnabod bod lle i'r GIG barhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn y tymor canolig i'r tymor hwy.

 

Fel rhan o'n hymrwymiad i atgyfnerthu gofal sylfaenol a chymunedol, defnyddir £30m o'r £260m i gynyddu'r cyllid sydd ar gael i'r Gronfa Gofal Canolraddol yn 2016-17 o £20m i £50m.  

 

Mae'r angen i sicrhau bod mwy o integreiddio yn digwydd rhwng iechyd a gwasanaethau gofal wedi bod yn hanfodol wrth gynllunio Cyllideb Ddrafft 2016-17, yn enwedig os ceir tystiolaeth y gallwn gael mwy o effaith drwy ddeall sut y gall y GIG, llywodraeth leol a phartneriaid allweddol eraill gydweithio'n well er mwyn ateb yr heriau sy'n ein hwynebu. Wrth greu ein cynlluniau, rydym wedi defnyddio dull o weithredu sy'n seiliedig ar 'systemau cyfan', er mwyn cynnal asesiad ehangach o'r ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhyngweithio ag amrywiaeth o ymyriadau cymorth eraill i ddiwallu anghenion pobl.

 

Caiff manylion y rhesymeg dros y cyllid ychwanegol hwn eu cynnwys ym mhrif ddogfennau'r gyllideb a ryddhawyd pan gafodd y gyllideb ei chyhoeddi ar 8 Rhagfyr.

 

Er mwyn helpu gwaith craffu'r Pwyllgor a rhoi dealltwriaeth well o'r ffordd y mae'r GIG yn gwario'r cyllid a ddyrennir iddo o fewn y Cam Gweithredu 'Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd', mae'r adran ganlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth am drefniadau cyllido Byrddau Iechyd Lleol.

 

Trefniadau cyllido Byrddau Iechyd Lleol

Yn y tablau BEL a ddangosir yn Atodiad B, mae'r cam gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd yn dangos cyllideb o £5.9bn ar gyfer 2016-17.  Ac eithrio rhai mân addasiadau, y gyllideb hon yw'r prif ddyraniad refeniw a roddir i'r Byrddau Iechyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Mae'r dyraniad yn darparu cyllid ar gyfer y canlynol:

 

·         Dyraniad refeniw yn ôl disgresiwn ar gyfer Ysbytai a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol (HCHS) a Phresgripsiynu.

·         Gwasanaethau HCHS sydd wedi'u diogelu a'u clustnodi.

·         Dyraniad y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

·         Dyraniad y Contract Fferylliaeth Gymunedol

·         Dyraniad y Contract Deintyddol

Cafodd dyraniad refeniw Byrddau Iechyd ar gyfer 2016-17 ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2015, gan rannu'r dyraniadau rhwng y llifoedd cyllid amrywiol a ddangosir uchod. Mae'r tabl isod yn crynhoi'r dyraniad fesul Bwrdd Iechyd.

 

Dyraniadau Refeniw Byrddau Iechyd ar gyfer 2016-17 

 

Bwrdd Iechyd

Dyraniad Disgresiwn a Phresgripsiynu

Dyraniad a glustnodwyd

Contract GMC

Contract Fferylliaeth

Contract Deinyddol

Cyfanswm

 

£m

£m

£m

£m

£m

£m

ABM

688.528

158.900

72.996

29.335

26.756

976.516

AB

772.424

130.803

83.392

31.453

26.604

1,044.676

BC

917.930

184.689

113.391

33.471

26.760

1,276.242

C a'r Fro

564.046

110.687

63.119

22.218

24.033

784.103

CT

416.145

82.234

44.409

18.501

11.581

572.870

H Dda

490.388

101.247

59.386

20.923

17.368

689.312

Powys

171.725

38.104

30.176

4.753

5.503

250.261

Cyfanswm

4,021.186

806.666

466.869

160.654

138.605

5,593.980

 

Nid yw'r tabl uchod yn cynnwys y £200m ychwanegol ar gyfer y GIG a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Ddrafft hon ar gyfer 2016-17. Nid wyf wedi penderfynu eto sut yn union y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio er mwyn helpu i ddarparu a thrawsnewid gwasanaethau yn 2016-17. Fodd bynnag, rwy'n bwriadu dosbarthu'r cyllid hwn i'r GIG ar sail cyfrannau poblogaeth ac ysgrifennais at Gadeiryddion ar 21 Rhagfyr yn eu hysbysu o'r bwriad hwnnw er mwyn eu galluogi i gynllunio yn unol â hynny.  

 

Nid wyf yn bwriadu sefydlu trefniadau rheolaidd i ddyrannu'r £65 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd yn 2015-16 ar gyfer gofal sylfaenol, cynlluniau cyflawni, technoleg iechyd ac iechyd meddwl hyd nes bod y prosiectau a roddwyd ar waith yn y flwyddyn ariannol bresennol wedi'u hadolygu.  Nid wyf wedi penderfynu eto chwaith sut y caiff y £30 miliwn ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ac iechyd meddwl a ddyrannwyd yn y Gyllideb Ddrafft ei ddefnyddio a'i ddosbarthu. Fodd bynnag, fy mwriad clir yw y bydd y £65m ar gael unwaith eto yn 2016-17 at yr un dibenion.

 

Nid yw dyraniadau refeniw'r Byrddau Iechyd Lleol yn cynnwys y Gronfa Gofal Canolraddol, sydd bellach yn werth £50 miliwn yn 2016-17, a gaiff ei dosbarthu drwy'r trefniadau partneriaeth â llywodraeth leol a'r trydydd sector.

 

O fewn y Cam Gweithredu 'Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd', ceir rhai eitemau cyllid a ddosberthir i'r Byrddau Iechyd yn ystod y flwyddyn, ar sail costau gwirioneddol/meini prawf y cytunwyd arnynt a allai amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly ni chânt eu cynnwys yn y symiau cyllid rheolaidd uchod.  Mae'r eitemau gwariant hyn yn cynnwys y canlynol, er enghraifft:

·         Cyllid o ran Camddefnyddio Sylweddau

·         Costau Hyfforddeion Deintyddol a Fferyllol

 

Dyraniad Disgresiwn BILlau

Isod, ceir dadansoddiad hanesyddol lefel uchel, yn ôl categori cost, o fwyafrif y gwariant o fewn dyraniad disgresiwn BILlau a ddangosir uchod, a gymerwyd o flwyddyn ariannol 2014-15:

 

DADANSODDIAD O WARIANT BILL YN ÔL MATH 2014-15

Cyfansymiau BILlau

 

REFENIW - GWARIANT AR GYFLOGAU

£m

£m

CYFANSWM CYFLOGAU STAFF Y GIG

2744.6

CYFANSWM CYFLOGAU STAFF O'R TU ALLAN I'R GIG

86.6

Cydnabyddiaeth cadeiryddion ac aelodau anweithredol

1.8

CYFANSWM GWARIANT REFENIW AR GYFLOGAU

 

2833.0

 

 

REFENIW - GWARIANT AR EITEMAU HEBLAW CYFLOGAU

 

Cyfanswm cyflenwadau clinigol

539.1

 

Cyfanswm gwasanaethau a chyflenwadau cyffredinol

56.4

 

Cyfanswm gwariant sefydlu (Teithio, argraffu, deunydd ysgrifennu ac ati)

70.0

 

Cyfanswm safleoedd a pheiriannau sefydlog

135.0

 

Cyfanswm dibrisiant/lleihad asedau sefydlog a gwrthdroadau

133.7

 

Cyfanswm staff ymgynghorol allanol ac ymgynghoriaeth

9.3

 

Cyfanswm amrywiol

53.7

 

CYFANSWM GWARIANT REFENIW AR EITEMAU HEBLAW CYFLOGAU

 

997.2

 

 

Crynodeb o Wariant Refeniw - BILlau 2014-15

 

3830.2

 

 

 

 

Dyraniad a Glustnodwyd

O fewn y dyraniad cyllid a glustnodwyd, y prif elfennau yw £587m i wasanaethau Iechyd Meddwl, £139m ar gyfer costau dibrisiant a £134m ar gyfer Anableddau Dysgu/Gwasanaethau Arennol.


Gwariant yn ôl Categori Cyllideb Rhaglenni

Gellir dadansoddi gwariant hanesyddol ymhellach yn ôl categori Cyllideb Rhaglenni. Caiff y wybodaeth hon ei chynhyrchu bob blwyddyn ond ni fydd ar gael nes tuag wyth mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. O ganlyniad, mae'r wybodaeth a ddangosir isod yn seiliedig ar wariant yn ystod blwyddyn ariannol 2013-14.  Nodir y meysydd gwariant yn y graff isod:


Mae'r siart uchod yn dangos y prif feysydd gwariant yn y GIG yng Nghymru. Daw'r wybodaeth o ddatganiadau cyllidebu rhaglenni ar gyfer 2013-14 ac mae'n cwmpasu dros 90% o'r gwariant yn ystod y flwyddyn honno (tua £5.2bn). DS Nid yw gwybodaeth cyllideb rhaglenni ar gyfer 2014-15 ar gael eto.

*Mae'r categorïau gwariant a ddangosir uchod yn seiliedig ar Ddosbarthiad Clefydau Rhyngwladol Sefydliad Iechyd y Byd.

 

 

Meysydd o Ddiddordeb a Nodir yn y Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor:

 

Trawsnewid gwasanaethau - Sut mae dyraniadau cyllid yn adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru o symud gwasanaethau o'r ysbyty i'r gymuned.

Mae nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cynnwys cyflawni Cymru ffyniannus, gydnerth, fwy cyfartal ac iachach, drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, nawr ac yn y dyfodol.  Er mwyn creu Cymru iachach a sicrhau gwasanaethau iechyd cynaliadwy, nod Llywodraeth Cymru yw newid pwyslais y system iechyd o salwch ac ysbytai i wella iechyd, gan sicrhau bod gan bobl fynediad teg i'r rhan fwyaf o'r gofal sydd ei angen arnynt mor agos i gartref â phosibl, yn seiliedig ar ethos o gyd-gynhyrchu.

 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu fframwaith statudol yn seiliedig ar lesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt.  Drwy'r fframwaith hwn, bydd modd darparu gwasanaethau mwy integredig sy'n canolbwyntio ar y gymuned a bydd y cynnydd o £30 miliwn a welwn eleni i'n cronfa gofal canolraddol, i £50 miliwn, yn cefnogi'r newid hwnnw.

 

Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai gofal sylfaenol yw elfen graidd pob system iechyd gynaliadwy. Mae ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol yn nodi sut y byddwn yn creu system iechyd gynaliadwy ac effeithiol drwy fodel mwy cymdeithasol o iechyd a llesiant. Mae hyn yn creu ymateb i anghenion pobl sy'n cynnwys ac yn gwneud defnydd darbodus o'r holl adnoddau ariannol, staff ac adnoddau eraill sydd ar gael, ac nid dim ond adnoddau GIG Cymru, gan helpu pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

 

Er mwyn gwneud hyn, rhaid symud y cydbwysedd o ran gofal ac adnoddau - gan gynnwys y gweithlu a chyllid - o ysbytai i'r gymuned fel bod pobl ond yn mynd i'r ysbyty pan fo hynny'n briodol.  Ceir tystiolaeth i ddangos bod gwaith i asesu anghenion unigolion, teuluoedd a chymunedau a defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio sut y caiff adnoddau eu defnyddio er mwyn diwallu'r anghenion hynny, ar ei fwyaf effeithiol pan gaiff ei wneud yn lleol iawn - gan ganolbwyntio ar tua 25,000 i 100,000 o bobl.  Mae byrddau iechyd wedi sefydlu, ac maent wrthi'n datblygu, eu 64 o glystyrau gofal sylfaenol - grwpiau o bractisau meddygon teulu a darparwyr gwasanaethau lleol eraill - er mwyn cydweithio i rannu eu gwybodaeth am anghenion lleol.

 

Mae Cyllideb Ddrafft 2016-17 yn cefnogi'r nod strategol hwn. Mae'n cynnwys ymrwymiad i barhau i ddarparu'r £40m ar gyfer gofal sylfaenol.  Y tair blaenoriaeth ar gyfer y cyllid hwn yw helpu i greu gwasanaeth cynaliadwy, gwella mynediad a symud gwasanaethau o ysbytai i'r gymuned.

 

Wrth i'n poblogaeth gynyddu, mae'r baich sy'n gysylltiedig â chyflyrau cronig yn cynyddu hefyd. Mae Cyllideb Ddrafft 2016-17 yn cynnwys ymrwymiad i barhau i ddarparu'r £10m ychwanegol ar gyfer y deg cynllun cyflawni: canser, strôc, diabetes, diwedd oes, cyflyrau niwrolegol, anadlol, clefyd y galon, gofal critigol, yr afu ac iechyd meddwl. 

 

Tystiolaeth o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro gweithgarwch er mwyn sicrhau diwygiadau ystyrlon i wasanaethau a chanlyniadau cadarnhaol i gleifion.

Ym mis Ebrill 2015, lansiwyd Fframwaith Canlyniadau trosiannol y GIG.  Dyma oedd y cam cyntaf yn y broses o fonitro gwaith y GIG ar sail canlyniadau. Bydd y Fframwaith Canlyniadau yn pennu llwyddiant y GIG wrth gynllunio a darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd er mwyn helpu i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru yn flynyddol.  Y Fframwaith hwn hefyd fydd yn gosod y sylfaen ar gyfer cyfeiriad iechyd a gofal yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru, y GIG a'r cyhoedd.

 

Mae dwy ran i'r fframwaith - dangosyddion poblogaeth (a gaiff eu monitro'n flynyddol) a mesurau perfformiad (a gaiff eu monitro drwy'r flwyddyn).  Mae'r dangosyddion poblogaeth a'r mesurau perfformiad yn seiliedig ar set o ganlyniadau poblogaeth y cytunwyd arni o fewn saith maes allweddol.

 

Mae'r fframwaith yn amlygu rôl y GIG o ran darparu gwasanaethau iechyd sy'n gwneud gwahaniaeth.  Er enghraifft, caiff y dangosydd poblogaeth sy'n monitro 'canran y plant â dannedd sy'n bydredig, ar goll neu wedi'u llenwi' ei ategu gan fesur perfformiad y GIG 'canran poblogaeth y bwrdd iechyd sy'n cael gofal deintyddol o dan y GIG yn rheolaidd'. Enghraifft arall o'r dull hwn o weithredu yw y caiff y dangosydd poblogaeth 'cyfradd fras o ardystiadau newydd ar gyfer pobl yr aseswyd bod ganddynt nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg oherwydd glawcoma, AMD a chlefyd y llygaid diabetig', ei ategu gan fesur perfformiad y GIG 'targed aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth o 26 wythnos'.

 

Fel rhan o'r Fframwaith Canlyniadau, ymrwymwyd i ehangu'r meysydd monitro i gynnwys pob agwedd ar iechyd a llesiant (nid dim ond afiechyd) a chanolbwyntio ar wella yn hytrach na "gosod targedau" (sy'n gallu arwain at ymddygiad gwrthnysig).  Er y bydd yn cymryd amser i ddatblygu mesurau newydd sydd wir yn canolbwyntio ar ganlyniadau a dangos p'un a yw "pobl yn well eu byd", mae grŵp cenedlaethol (sy'n cynnwys y GIG) yn symud y gwaith hwn yn ei flaen.   O ganlyniad, gobeithio y bydd mesurau yn y dyfodol yn canolbwyntio mwy ar yr effaith a gaiff gofal ar iechyd a llesiant dinasyddion Cymru yn hytrach na dim ond mesur y broses.

 

Mae'r cynlluniau i gyflawni mesurau'r Fframweithiau Canlyniadau a Chyflawni yn rhan hanfodol o'r broses adolygu a chymeradwyo ffurfiol ar gyfer y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (CTCI).  Ynghyd â datblygu a chymeradwyo CTCIau, rhaid cael dull cyflawni cadarn, gan gynnwys trefniadau rheoli, monitro ac uwchgyfeirio effeithiol.  Caiff gwaith sefydliadau ei fonitro yn erbyn y cynlluniau hyn.

 

Bydd rôl Llywodraeth Cymru wrth fonitro gwaith sefydliadau'r GIG yn dibynnu ar statws CTCI y sefydliad.  Fan lleiaf, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro gwaith drwy ei threfniadau rheoli perfformiad arferol (sy'n cynnwys datganiadau safonol ac adolygu cynnydd mewn cyfarfodydd Ansawdd a Chyflawni a chyfarfodydd JET). Yn achos sefydliadau nad oes ganddynt CTCI cymeradwy, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn am lawer mwy o fanylion am y tybiaethau allweddol sy'n sail i'r proffiliau a gynlluniwyd ganddynt.

 

Efallai y bydd adegau pan na fydd sefydliad yn cyflawni fel y cynlluniwyd ac yn peri pryder.  Yn yr achosion, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei threfniadau uwchgyfeirio.  Wrth asesu uwchgyfeiriad, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried darlun cyflawn o'r sefydliad cyn penderfynu pa gamau y bydd yn eu cymryd i gael sicrwydd ynglŷn â chyflawni.  Mae'r trefniadau hyn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y broses uwchgyfeirio ar gyfer 2016-17 yn gyson â'r Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddatblygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu system a fydd yn canolbwyntio ar lesiant. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi canlyniadau i'w cyflawni mewn perthynas â llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Rhaid i Weinidogion Cymru adrodd ar y cynnydd a wneir i sicrhau llesiant. Diffinnir llesiant yn y Ddeddf ac mae'n cyfeirio at bob agwedd ar fywyd person. Bydd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a darparwyr gwasanaethau yn helpu i sicrhau llesiant.

 

Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yn disgrifio'r canlyniadau llesiant pwysig ar gyfer pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, ynghyd â'r dangosyddion canlyniadau cenedlaethol i fesur y canlyniadau llesiant hynny. Mae'r fframwaith yn gosod cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer hybu llesiant. Fe'i cyhoeddwyd ar wefan Fy Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lleol ac mae'n cynnig ffordd dryloyw o adrodd ar lesiant ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro a yw gwasanaethau gofal a chymorth yn helpu pobl i wella canlyniadau llesiant ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

I gefnogi hyn, rhaid dwyn gwasanaethau i gyfrif am helpu pobl i sicrhau llesiant. Mae'r cod ymarfer ar gyfer mesur perfformiad gwasanaethau cymdeithasol, a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf, yn gosod fframwaith i fesur cyfraniad awdurdodau lleol tuag at swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol i wella llesiant. Mae'r fframwaith yn cynnwys safonau ansawdd a mesurau perfformiad. Cyhoeddir adroddiad blynyddol ar y mesurau o fis Ebrill 2016 ymlaen a fydd yn dangos p'un a yw awdurdodau lleol yn helpu pobl i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt.

 

Mae fframwaith arolygu awdurdodau lleol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wrthi'n cael ei ddatblygu yn unol â'r Ddeddf. Bydd y fframwaith arolygu yn canolbwyntio ar ganlyniadau a bydd yr arolygiadau eu hunain yn seiliedig ar y fframwaith perfformiad a nodir yn y cod ymarfer.

 

 

 

 

Beth yw targedau effeithlonrwydd 2016-17 yn y sector iechyd a sut y caiff y rhain eu monitro/dilysu.

Mae Cyllideb Ddrafft 2016-2017 yn nodi bod y buddsoddiad ychwanegol yn y GIG yn seiliedig ar dystiolaeth o ddiweddariad i'r model a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield i adlewyrchu'r tybiaethau diweddaraf ynglŷn â phwysau gwariant ac effeithlonrwydd yn y GIG. Yn ôl y gwaith modelu hwn, tybiwyd y byddai modd parhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd o tua 1% mewn termau real bob blwyddyn, yn sgil arbedion effeithlonrwydd yn y sector aciwt a threfniadau gwell i reoli cleifion â chyflyrau cronig er mwyn atal derbyniadau diangen i'r ysbyty. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gosod targedau effeithlonrwydd ariannol penodol ar gyfer sefydliadau'r GIG, ond bydd disgwyl iddynt ateb yr heriau ariannol sy'n gysylltiedig â phwysau cost a chynnydd mewn galw gan ddefnyddio'r ddarpariaeth yn y setliad hwn. Caiff effeithlonrwydd ariannol, drwy gynnydd yn erbyn cynlluniau tymor canolig neu weithredol, ei fonitro drwy'r Ffurflenni Monitro Ariannol misol a gyflwynir gan holl sefydliadau'r GIG.

 

Cynlluniau Diswyddo Staff

Nid yw cyllideb 2016-17 yn cynnwys unrhyw ddyraniadau penodol ar gyfer cynlluniau diswyddo staff.  Mae'r Gronfa Buddsoddi i Arbed wedi rhyddhau £3.6m i'r GIG yn 2015-16 ar gyfer y Cynllun Ymadawiadau Cynnar Gwirfoddol (VERS).   Yn 2014-15, gwariwyd £3.0m ar VERS o fewn y GIG.

 

 

Atal

Mae nodi'r adnoddau sy'n gysylltiedig â gwariant ataliol yn broses gymhleth a bydd casgliadau'n amrywio yn dibynnu ar y diffiniadau a'r meini prawf a ddefnyddir.  Yn gyffredinol, gellir rhannu atal yn dair agwedd:

 

Atal sylfaenol, sy'n ceisio mynd i'r afael â chlefydau cyn iddynt ddechrau.  Mae ffyrdd o helpu pobl i sicrhau iechyd da a llesiant, fel tai da, cyrhaeddiad addysgol, lleihad mewn troseddu ac ati, i gyd yn cyfrannu at atal sylfaenol.  Elfen sylweddol o waith atal sylfaenol yw darparu addysg a newidiadau amgylcheddol er mwyn helpu pobl i helpu eu hunain.  Fodd bynnag, mae imiwneiddio hefyd yn enghraifft o waith atal sylfaenol, ac yn enghraifft sy'n galw am ymyriad gofal iechyd. 

 

Atal eilaidd, sy'n ceisio canfod problemau iechyd yn gynnar pan fo modd eu trin, gan ddarparu'r driniaeth angenrheidiol.  Mae'r rhan fwyaf o ddulliau atal eilaidd yn cynnwys rhyw fath o ymyriad gofal iechyd, fel prawf sgrinio.       

 

Atal trydyddol, sy'n canolbwyntio ar bobl sydd eisoes â chyflwr iechyd hirsefydlog, fel diabetes, ac sy'n gallu nodi unrhyw gymhlethdodau disgwyliedig a'u rheoli mor effeithiol â phosibl.  Mae profion sgrinio retinopatheg diabetig yn enghraifft o hyn.  Gwneir cryn dipyn o waith atal trydyddol o fewn gofal sylfaenol, wrth ofalu am bobl â phroblemau iechyd cronig.

 

Mae angen bod yn ofalus wrth ystyried goblygiadau gwariant ataliol.  Honnwyd weithiau bod dulliau atal yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn arbed arian ar yr un pryd, ond mae cydberthynas linellol o'r fath yn annhebygol. Mae atal niwed y mae modd ei osgoi yn rhyddhau arian ar gyfer dibenion iechyd a gofal cymdeithasol eraill.  Felly, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng arbedion posibl o fewn maes clefyd penodol a lleihau cyllideb y GIG a gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Mae'r gallu i wneud arbedion mewn meysydd penodol yn bwysig ac yn werth anelu atynt hyd yn oed os yw'r effaith gyffredinol ar y gyllideb yn fwy cymhleth.

 

Nid yw'n bosibl bob amser i briodoli'r adnoddau sy'n gysylltiedig â gwariant ataliol i grwpiau oedran.  Er enghraifft, caiff cyfran sylweddol o waith atal sylfaenol a thrydyddol ei chyflawni mewn gofal sylfaenol a chymunedol, a bydd cyfran o'r gwaith hwn yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, ond bydd yn anodd cyfrifo'r lefelau gwariant fesul grwpiau unigol. 

 

Gellir priodoli'r rhan fwyaf o wariant Iechyd Cyhoeddus Cymru i waith atal.  Dyrennir £86.0m i gyllid craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae'r cyllid hwn yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu ystod o wasanaethau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â gwella a diogelu iechyd, felly mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i gyflawni llawer o gamau gweithredu sy'n gwella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd ymhlith plant a phobl ifanc. Nid yw'r dyraniad cyllidol hwn wedi'i glustnodi ar gyfer unrhyw weithgarwch penodol er mwyn rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddefnyddio ei adnoddau er mwyn bodloni amrywiaeth eang o flaenoriaethau ac ymrwymiadau.

 

Fformiwla dyrannu adnoddau a dosbarthu cyllid ychwanegol

Fy mwriad yw y bydd £200m o'r buddsoddiad ychwanegol yn 2016-17 yn cael ei ddyrannu i'r GIG ar sail cyfrannau poblogaeth yn bennaf.  Cydnabuwyd eisoes mai'r egwyddor o ddyrannu adnoddau ychwanegol yn unol â fformiwla poblogaeth sy'n seiliedig ar anghenion yw'r egwyddor fwyaf priodol.  Ar ôl adroddiad "Targeting Poor Health" yn 2001, y fformiwla poblogaeth sy'n seiliedig ar anghenion uniongyrchol, sef Fformiwla Townsend, fu'r fformiwla a ddefnyddiwyd i ddosbarthu cyllid i Fyrddau Iechyd Lleol. 

 

Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau cydbwysedd rhwng cynnal y dosbarthiad cyllid presennol a newid i gyfrannau yn seiliedig ar y diweddariad i fformiwla Townsend.

Yn unol â'r polisi sy'n bodoli, dim ond i ddyraniadau ychwanegol y cymhwyswyd fformiwla Townsend, nid dyraniadau craidd a ddyfarnwyd eisoes.  Felly, mae dyraniadau Byrddau Iechyd Lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn seiliedig ar ddyraniad y flwyddyn gyfredol ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r dyraniad neu namyn unrhyw newidiadau i'r dyraniad.  Bydd y newidiadau hyn yn cynnwys dyraniadau ychwanegol cyffredinol, a ddosberthir gan ddefnyddio fformiwla Townsend, ac unrhyw ddyraniadau ychwanegol penodol.

 

Gan mai dim ond i ddyraniadau ychwanegol y cymhwysir fformiwla Townsend, mae'n bwysig nodi na fabwysiadir cyfrannau fformiwla Townsend i ddosbarthu dyraniadau cyffredinol o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol.  Ni fyddai unrhyw gamau yn cael eu cymryd i fabwysiadu dyraniad targed Townsend oni bai bod y polisi yn cael ei newid er mwyn cymhwyso fformiwla Townsend i ddyraniadau sylfaenol. Ar hyn o bryd, nid oes gennyf unrhyw fwriad i gymhwyso'r fformiwla i ddyraniadau sylfaenol, gan y byddai hyn yn debygol o beri ansefydlogrwydd ariannol sylweddol yn yr ardaloedd hynny o Gymru sydd uwchlaw'r targed.

 

Trefniadau teg a thryloyw ar gyfer llifoedd ariannol rhwng sefydliadau o fewn GIG Cymru.   

Er bod trefniadau sefydledig ar waith o ran llifoedd ariannol rhwng sefydliadau o fewn GIG Cymru, mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen gwella a diweddaru trefniadau ar gyfer llifoedd ariannol er mwyn adlewyrchu newidiadau i fodelau gofal a'r newidiadau i drefniadau llif cleifion a fydd yn deillio o raglen De Cymru a chynlluniau ad-drefnu eraill.

 

Cafodd yr egwyddorion sy'n sail i'r trefniadau hyn eu hystyried gan uwch arweinwyr y GIG mewn digwyddiad Tîm Cymru ar ddechrau 2015. Yn unol â'm tystiolaeth i'r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015, mae'r gwaith hwn bellach yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cydweithredol y GIG, Bob Hudson. Bydd Tîm Cymru yn cytuno unwaith eto ar ganlyniad y gwaith hwn cyn iddo gael ei weithredu o 2016-17 ymlaen. 

 

Darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth
 

 

Deddfwriaeth

Swm Cyllid

Cam Gweithredu

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

£0.6m

Cyflenwi Gwasanaethau GIG wedi'u Targedu

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

£4.3m

Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

£1.5m

Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

£0.7m

Hybu Gwella Iechyd a Gweithio Iach

Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014

£0.025m

Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd

 

Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (daeth yn gwbl weithredol ar 1 Rhagfyr 2015): Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Bil, amcangyfrifwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwario £0.5 miliwn yn 2016-17.  Bydd y gwariant hwn yn cwmpasu gweithgarwch cyfathrebu (gan gynnwys cyfathrebu â phobl ifanc 17 oed); gwaith sydd ar ôl i'w wneud mewn perthynas ag ailddatblygu'r Gofrestr Rhoddwyr Organau; prosesu cofrestriadau ychwanegol, a darnau amrywiol o waith gwerthuso sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth newydd.  Diwygiwyd y gyllideb i £0.6 miliwn ar ôl ailbroffilio rhai elfennau o'r gyllideb o'r ddwy flwyddyn flaenorol mewn perthynas â gwaith sy'n mynd rhagddo ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau a'r rhaglen ymchwil.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu'r fframwaith i ysgogi'r newidiadau sydd eu hangen i greu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy i'r dyfodol.  Daw'r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2016 ac mae ein rhaglen weithredu yn cefnogi'r newidiadau y bydd y Ddeddf yn eu rhoi ar waith.  Gwyddom mai'r flaenoriaeth i wasanaethau cymdeithasol yw trawsnewid, a hynny drwy'r Ddeddf.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gan bobl lais cryfach a mwy o reolaeth dros y gwasanaethau a gânt, canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar a datblygu llawer mwy o bwyslais ar integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn meysydd critigol.   Disgwyliwn y bydd y Ddeddf, fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r Bil, yn niwtral o ran refeniw yn y tymor hwy. 

 

Mae dadansoddiad cost a budd ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth sy'n sail i'r Ddeddf wedi'i gynnwys yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol a gyhoeddwyd fel rhan o'r memoranda esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau a osodwyd.  Mae'r gwaith hwn wedi rhoi darlun cliriach o'r costau a'r buddiannau unigol cyfyngedig sy'n deillio neu yr eir iddynt o ganlyniad i'r newidiadau sy'n ofynnol dan y Ddeddf. Dylid ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach system a ddatblygwyd i fod yn niwtral o ran refeniw drwy symud ffocws a baich costau tuag at gefnogi llesiant, ymyriadau cynharach a llais dinasyddion ac oddi wrth ymyriadau hwyr, dwys, ymwthiol a chostus. Cefnogwyd y newid mawr hwn gan dair blynedd o gyllid pontio i lywodraeth leol a'i phartneriaid er mwyn eu helpu i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â newid i ffordd newydd o weithio.

 

Mae holl linellau'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol wedi'u targedu at gyflawni'r agenda ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy y mae'r Ddeddf yn sail iddi.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r newid i'r system newydd ac yn darparu cymorth pontio er mwyn paratoi ar gyfer y Ddeddf a ddaw yn weithredol ar 6 Ebrill 2016. Yn 2016-17, bydd £4.3m ar gael er mwyn helpu i gyflawni'r newid.

 

Yn 2016-17, bydd Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu £7.2m o gyllid Llywodraeth Cymru i'w fuddsoddi mewn hyfforddiant i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a fydd yn canolbwyntio ar eu galluogi i atgyfnerthu eu hymarfer a rhoi'r Ddeddf newydd ar waith. Darperir y rhan fwyaf o'r cyllid grant hwn yn uniongyrchol i Awdurdodau Lleol. Darperir £1.1m arall o'r grant i Gyngor Gofal Cymru er mwyn ariannu hyfforddiant ar weithredu'r Ddeddf. 

Mae cynllun grantiau'r trydydd sector yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Ddeddf a bydd yn galluogi sefydliadau yn y trydydd sector i ddarparu ymyriadau cynnar a gwasanaethau ataliol mwy arloesol er mwyn helpu i roi egwyddorion y Ddeddf ar waith yn llawn. 

 

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Ddeddf, amcangyfrifwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwario £1.5m yn 2016-17.  Bydd y gwariant hwn yn talu costau amcangyfrifedig y broses o newid o'r system reoleiddio bresennol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 i'r system newydd a sefydlir o dan y Ddeddf. Mae'r gofyniad cyffredinol hwn ar gyfer 2016-17 yn debygol o leihau o ganlyniad i drafodaethau sy'n mynd rhagddynt rhwng cyrff rheoleiddio a Gweinidogion, a gwaith ailbroffilio dros amserlen hwy.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gyhoeddwyd pan gyflwynwyd y Bil, amcangyfrifwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwario £0.7m yn 2016-17. Mae hyn yn cynnwys costau staff sy'n gyfrifol am ddatblygu rheoliadau, ynghyd â chostau gweithredu eraill.

 

Dyluniwyd y Bil gan geisio lleihau unrhyw feichiau ariannol newydd i'r eithaf, yn enwedig i'r sector llywodraeth leol. Yn ystod y broses graffu, pwysleisiodd rhai rhanddeiliaid y rôl hanfodol sydd gan lywodraeth leol i'w chwarae wrth weithredu'r Bil a'r angen am ddigon o adnoddau i'w helpu i wneud hynny. Gan gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried a fyddai'n bosibl darparu cymorth ychwanegol i'r sector i'w helpu yn ystod y camau gweithredu cynnar.

 

Gall y costau hyn newid wrth i'r Cynulliad graffu ar y Bil. Disgwylir hefyd y gallai'r costau hyn leihau wrth i agweddau ar y broses weithredu gael eu cydgysylltu ar draws elfennau amrywiol y Bil.

 

Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2004

Yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol amcangyfrifwyd mai £0.1m fyddai cyfanswm cost Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi gwario llai na hyn.  Er enghraifft, amcangyfrifwyd gennym y byddem yn gwario £0.062m ar waith craffu allanol ar gyfer cylch cynllunio 2014-15.  Dim ond £0.025m a wariwyd gennym yn y pen draw.  Hefyd, ar gyfer yr  Asesiad Effaith Rheoleiddiol, amcangyfrifodd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'r ffioedd am archwilio cyfrifon blynyddol Byrddau Iechyd Lleol yn cynyddu  £0.119m y flwyddyn o ganlyniad i'r Ddeddf. Ar gyfer blwyddyn gyntaf y ddyletswydd tair blynedd newydd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi amcangyfrif y byddai'r costau yn cyfateb i tua £0.025m a nododd y bydd costau yn cynyddu, hyd at y costau a amcangyfrifwyd yn wreiddiol o bosibl, i adlewyrchu'r gwaith a fydd ei angen ar ddiwedd y cyfnod cyntaf o dair blynedd.

 

Mae'r Ddeddf hon wedi bod ar waith ers deunaw mis bellach, ac nid oes unrhyw fwrdd iechyd wedi cwblhau cylch tair blynedd eto, felly nid yw'r costau terfynol ar gael eto.  Mae'r costau uchod yn cyfeirio at y costau hyd yma.

 

 

Deddfwriaeth Llywodraeth y DU 

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro deddfwriaeth y DU ac yn gweithio gyda swyddogion yn Whitehall ar y saith Bil sydd gerbron Senedd y DU a'r 26 o Filiau Aelodau Preifat y bernir y gallent effeithio ar bolisi ym maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, sef:

·         Bil Cymru Arfaethedig

·         Y Bil Menter

·         Y Bil Mewnfudo

·         Y Bil Plismona a Chyfiawnder Troseddol

·         Y Bil Sylweddau Seicoweithredol

·         Bil Aelodau Preifat ar Fynediad i Driniaethau Meddygol (arloesedd)

·         Bil Aelodau Preifat ar y GIG (Ymddiriedolaethau Elusennol ac ati)

 

Hyd nes bod y darpariaethau terfynol hynny yn y Biliau hyn sy'n effeithio ar Gymru yn hysbys, ni ellir nodi unrhyw oblygiadau ariannol pendant.  Y prif nod yw sicrhau nad yw deddfwriaeth y DU yn cael effaith andwyol ar Gymru na Gweinidogion Cymru a'n bod yn manteisio ar gyfleoedd i gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth i Gymru.

 

Cyllid cyfalaf

Mae Rhaglen Gyfalaf y GIG yn cefnogi'r amcanion buddsoddi allweddol o foderneiddio ac adnewyddu asedau ac ystad y GIG, yn ogystal â thrawsnewid y ddarpariaeth gofal iechyd.  Mae'r Flaenraglen Gyfalaf yn gydnaws â'r amcanion hyn ac yn cynnwys cynlluniau y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt yng Nghynlluniau Tymor Canolig Integredig sefydliadau'r GIG.  Mae'n rhaid i gynigion am brosiectau unigol ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni pum maen prawf buddsoddi allweddol, gan gynnwys cynnydd mewn iechyd, cynaliadwyedd clinigol a chynaliadwyedd sgiliau, tegwch, fforddiadwyedd a gwerth am arian.

 

Caiff y Rhaglen ei diweddaru'n flynyddol bellach.  Bydd gwaith yn parhau dros y misoedd nesaf i adnewyddu'r Rhaglen er mwyn ystyried y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig diweddaraf a gyflwynir ym mis Ionawr 2016.

 

Dyraniad cyfalaf diwygiedig y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17 yw £253m, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol o £33.4m.  Mae hyn yn gynnydd o £18m o gymharu â dyraniad cyllideb 2015-16.  Er gwaethaf cynnydd araf mewn arian parod yn yr Adolygiad o Wariant, mewn termau real bydd y cyfalaf cyhoeddus sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi cael ei dorri 30% erbyn 2019-20 o gymharu â'i lefel frig yn 2009-10.

 

Mae'r tabl yn Atodiad Ch yn rhoi manylion y prosiectau sydd wedi'u cymeradwyo o fewn GIG Cymru.

 

O ran modelau cyllido arloesol, ar ôl i'r Rhaglen Amlinellol Strategol gael ei chymeradwyo ym mis Ionawr 2015, parheir i wneud cynnydd cadarnhaol wrth ddatblygu'r Achos Busnes Amlinellol dros ysbyty canser newydd yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.  Caiff y prosiect hwn ei ddatblygu gan ddefnyddio'r Model Nad yw'n Dosbarthu Elw a dyma fydd y cynllun cyntaf i ddefnyddio'r model cyllido hwn yng Nghymru.  O dan yr amserlen bresennol, caiff yr Achos Busnes Amlinellol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei ystyried ym mis Gorffennaf 2016.  Os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith caffael yn dechrau yn ystod hydref 2016 a bydd yr ysbyty newydd yn agor yn 2021-22.

 

Mae modelau cyllido eraill yn cael eu hystyried mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyfarpar meddygol a mentrau ynni-effeithlon/carbon isel.  O ran gofal sylfaenol a chymunedol, mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi datblygiadau â blaenoriaeth posibl ledled Cymru.  Bydd y llif prosiectau newydd hwn yn dylanwadu ar y modelau cyllido y gellir eu defnyddio, ond bydd yn cynnwys cyfleoedd i gydweithio mwy gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector, yn ogystal â chyllid Ewropeaidd.

 

Y broses o groesgyfeirio'r gyllideb

Nodwyd y prosesau a roddwyd ar waith mewn perthynas â'r dyraniadau cyffredinol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a gyhoeddwyd gyda dogfennaeth y Gyllideb Ddrafft ar 8 Rhagfyr. Ceir mwy o wybodaeth am yr effaith yn yr Asesiad Effaith Integredig yn Atodiad C.

Cronfa Risg Cymru

Amcangyfrifir mai £665.1m yw darpariaeth gyfrifyddu bresennol Cronfa Risg Cymru ym mis Tachwedd 2015, sy'n ostyngiad o £9m. Mae Cronfa Risg Cymru wedi gwneud £24.3m o daliadau yn 2015-16. Fel sy'n arferol ar yr adeg hon o'r flwyddyn ariannol, mae nifer o hawliadau yn yr arfaeth ar hyn o bryd a chânt eu hasesu ymhellach tua diwedd y flwyddyn er mwyn pennu a fydd angen darpariaeth gyfrifyddu. Yn unol â hyn, amcangyfrifir y bydd darpariaeth Cronfa Risg Cymru ar gyfer y flwyddyn gyfan yn cyfateb i £700m i £725m.

 

Mae'r rhan fwyaf o ddarpariaeth Cronfa Risg Cymru yn ymwneud â hawliadau ynghylch Esgeulustod Clinigol. Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr hawliadau newydd a wneir ynghylch esgeulustod clinigol dros y blynyddoedd diwethaf a thwf yn y costau a'r iawndal sy'n gysylltiedig â'r hawliadau hyn. Gwelwyd yr un cynnydd yn y GIG yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid dim ond yng Nghymru.

 

Credir bod y cynnydd diweddar yng Nghymru a Lloegr wedi deillio'n rhannol o'r newidiadau i'r Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2013. Mae'r ddeddfwriaeth wedi diwygio'r trefniadau cyllido ar gyfer ymgyfreitha sifil, gan gynnwys y trefniadau "dim llwyddiant, dim ffi" a oedd yn galluogi cyfreithwyr yr hawlwyr i godi ffioedd llwyddiant o 100% ar eu costau.  Ymhlith y ffactorau eraill a nodwyd ledled y DU a allai ysgogi'r cynnydd, mae cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cael eu trin, y ffaith bod cymdeithas yn fwy parod i ymgyfreitha, cynnydd yng ngwerth yr hawliadau, a thuedd newydd lle gwelir costau sylweddol yn gysylltiedig â hawliadau gwerth is.

 

Ni all Llywodraeth Cymru effeithio ar lefel yr iawndal a delir i hawlwyr cymwys, gan mai'r llysoedd sy'n pennu'r lefelau hyn.  O safbwynt costau hawliadau, mae'r Llysoedd wedi cyflwyno proses cyllidebu costau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddwy ochr gyflwyno amcangyfrifon o'u costau dros oes yr hawliad a chytuno arnynt, mewn ymgais i leihau costau anghymesur. Ond nid oes tystiolaeth ar gael eto o'r effaith a gaiff y broses hon ar gostau hawliadau. Cyhoeddodd yr Adran Iechyd yn Lloegr yn 2015 ei bod yn bwriadu mynd i'r afael â hawliadau cyfreithiol anghymesur ar gyfer achosion esgeulustod clinigol gwerth is. Mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu â'r Adran Iechyd ar y cynnig polisi hwn.

 

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), ar ran cyrff GIG Cymru, wedi mabwysiadu system gadarn ond teg i sicrhau bod hawliadau annheilwng a ddaw i law yn cael eu hamddiffyn yn briodol a'u cwblhau heb dalu iawndal.  Mae trefniadau rheoli rhagweithiol a chadarn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn sicrhau y caiff hawliadau eu setlo mewn ffordd deg a chyfartal.

 

Ar ôl cyflwyno Gweithio i Wella yn 2011, mae gan GIG Cymru weithdrefn gwyno symlach sy'n fwy ymatebol a chynhwysfawr ac sy'n caniatáu i gorff iechyd gynnig gwneud iawn am niwed sydd wedi digwydd o ganlyniad i driniaeth.

 

Nid drwy reoli costau yn unig mae lleihau'r costau sy'n gysylltiedig ag esgeulustod clinigol, bydd gwelliannau i ofal cleifion drwy leihau nifer yr achosion o esgeulustod clinigol a niwed yn lleihau nifer yr hawliadau cymwys a gaiff eu setlo.  Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Sicrwydd Ansawdd a Diogelwch mewnol sy'n monitro ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd drwy gynnal adolygiadau rheolaidd o ddangosyddion allweddol amrywiol a materion sy'n dod i'r amlwg a all beri gofid neu feysydd lle na welwyd digon o gynnydd i gyflwyno gwelliannau y cytunwyd arnynt.  Mae'r Grŵp yn sicrhau y cymerir camau gweithredu lle bo angen gwella, gan gytuno ar gamau uwchgyfeirio ac ymyrryd priodol a monitro ac adolygu achosion fel y bo angen hyd nes bod y gwelliannau gofynnol wedi'u cyflawni.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu fforwm Diogelwch ac Ansawdd Cenedlaethol sy'n dwyn uwch arweinwyr GIG Cymru ynghyd i rannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu am ansawdd a diogelwch.   Y nod yw hyrwyddo a gwella ansawdd a diogelwch yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Mae'r System Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu yn ei gwneud yn bosibl i anfon adroddiadau ar achosion diogelwch cleifion i gronfa ddata genedlaethol lle mae'n rhaid i sefydliadau'r GIG yng Nghymru gofnodi pob achos sy'n ymwneud â diogelwch cleifion.  Yn flaenorol, câi'r wybodaeth am risgiau a nodwyd drwy'r System ei dosbarthu drwy amrywiol ddulliau a gafodd eu datblygu a'u rhoi ar waith gan yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion cyn mis Mehefin 2012.  Roedd hyn yn cynnwys Rhybuddion Diogelwch Cleifion, Hysbysiadau Diogelwch Cleifion ac Adroddiadau Ymateb Cyflym.   Ar ôl i'r Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion gael ei diddymu, Llywodraeth Cymru sydd bellach yn arwain y gwaith hanfodol hwn i nodi unrhyw risgiau a phryderon diogelwch arwyddocaol a datblygu Datrysiadau Diogelwch Cleifion cenedlaethol i'w cyflwyno i'r GIG yng Nghymru er mwyn gwella diogelwch cleifion.

 

Caiff yr holl hawliadau am ad-daliadau a gaiff Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru NWSSP eu hadolygu er mwyn sicrhau y cymerwyd camau cymesur i leihau'r risg y byddant yn digwydd eto. Caiff hawliadau eu hystyried hefyd gan Bwyllgor Cronfa Risg Cymru, sef grŵp amlddisgyblaeth o swyddogion gweithredol o bob rhan o Gymru, er mwyn ystyried ymhellach y camau sydd eu hangen i rannu gwersi a ddysgwyd neu wneud cais am adolygiad o hawliadau.

 

O ganlyniad i adolygiad Evans, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r fforwm Ansawdd a Diogelwch Cenedlaethol i hwyluso nifer o ffrydiau gwaith er mwyn gwella ac atgyfnerthu trefniadau Gweithio i Wella. Mae'r enghreifftiau yn cynnwys: 

 

·         gweithio i gaffael system rheoli risg genedlaethol er mwyn safoni dulliau casglu data a gwybodaeth ledled GIG Cymru.  Bydd hyn yn gwneud y data yn fwy cyson ac yn ei gwneud yn bosibl i nodi themâu a thueddiadau cenedlaethol, a gall hefyd arwain at lai o achosion dyblyg.   Bydd system o'r fath yn rhan greiddiol o'r ymdrech i wella diogelwch cleifion drwy gynhyrchu metrigau yn ogystal â rhybuddion.

 

·         cydweithio â'r GIG i sicrhau bod ganddo'r strwythurau priodol, gan ddwyn profiadau a phryderon cleifion ynghyd er mwyn nodi gwersi, dysgu a gwneud gwelliannau yn sgil cwynion.

 

·         mae Llywodraeth Cymru yn symleiddio Arweiniad Gweithio i Wella er mwyn annog sefydliadau i ddefnyddio'r broses gwneud iawn.  Mae'r broses hon yn darparu ymddiheuriad a gonestrwydd ond mae hefyd yn nodi gwersi i'w dysgu pan fo pethau'n mynd o chwith fel y gall sefydliadau wella eu gwasanaethau. 

 

Y diweddaraf ar Ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu

Yn ôl yn 2011, gwnaethom gyflwyno'r Rhaglen Lywodraethu fwyaf uchelgeisiol a chynhwysfawr ers datganoli, sydd bellach yn cynnwys 547 o ymrwymiadau gwahanol yn ymdrin â'r holl wasanaethau amrywiol rydym yn gyfrifol amdanynt. Gwnaethom hynny gan wybod bod y rhagolygon ar gyfer arian cyhoeddus yn heriol.

                                                                   

Mae delio â chaledi wedi bod yn brawf mawr i Lywodraeth Cymru a'r broses ddatganoli yn gyffredinol, ond rydym wedi llwyddo drwy barhau i ganolbwyntio'n gadarn ar gyflawni a chefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf.  Rydym wedi gwneud hynny drwy bennu pedair blaenoriaeth gyffredinol ar ran pobl Cymru, ym maes iechyd a gwasanaethau iechyd, cyrhaeddiad addysgol, twf a swyddi, a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig. Yn achos pob un o'r blaenoriaethau allweddol hyn, rydym wedi targedu ein hadnoddau er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

 

Fel Llywodraeth, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i'r egwyddor o dryloywder, fel y gellir barnu'r Llywodraeth hon ar ei chyflawniadau. Ers 2011, rydym wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol i ddarparu cofnod tryloyw o'r hyn sy'n cael ei wneud a'i gyflawni yn erbyn ein 547 o ymrwymiadau a fesurir drwy gyfrwng 336 o ddangosyddion perfformiad a chanlyniadau.

 

Cyhoeddwyd ein hadroddiad blynyddol terfynol ar y Rhaglen Lywodraethu ym mis Mehefin 2015 a ddangosodd fod mwy na 95 y cant o'n hymrwymiadau naill ai wedi'u cyflawni neu ar y trywydd cywir i'w cyflawni.

 

Mynediad i feddygon teulu

Mae Meddygon Teulu yn gwneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio yn seiliedig ar angen. Gwelwyd tuedd am i fyny yn yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd ar fynediad i feddygon teulu yn 2014. Mae 80% o bractisau meddygon teulu yng Nghymru bellach ar agor rhwng yr oriau craidd dyddiol (neu o fewn awr i'r oriau craidd dyddiol), o gymharu â 76% yn 2013 ac mae 79% o bractisau bellach yn cynnig apwyntiadau unrhyw bryd rhwng 5pm a 6.30pm bob nos yn ystod yr wythnos, o gymharu â 76% yn 2013. 

 

Mae gwasanaeth canolog gwell ar waith i gyllido apwyntiadau ar ôl 6.30pm. Yn 2014, roedd 7% o bractisau yn cynnig apwyntiadau ar ôl 6.30pm o leiaf un diwrnod yr wythnos. Mae byrddau iechyd wedi rhoi sicrwydd bod mynediad i wasanaethau ar ôl 6.30pm yn adlewyrchu angen rhesymol ymhlith cleifion. Lle aseswyd bod angen rhesymol ymhlith cleifion am well mynediad i feddygon teulu ar ôl 6.30pm ac ar fore Sadwrn, disgwylir y bydd trefniadau mynediad yn cael eu gwneud. Rhagwelir y bydd y trefniadau i wella mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol ar benwythnosau yn cael eu rhoi ar waith gan grwpiau o bractisau meddygon teulu a fydd yn cydweithio â'i gilydd, drwy glystyrau gofal sylfaenol, gan gynnwys y posibilrwydd o wasanaethau bore Sadwrn. 

 

Fel rhan o'r newidiadau y cytunwyd arnynt i'r contract meddygon teulu ar gyfer 2015-16, mae GPC Cymru, Llywodraeth Cymru a GIG Cymru wedi ymrwymo i nodi ffyrdd o wella mynediad i wasanaethau meddygon teulu, yn enwedig gwella profiadau cleifion a phrofiadau cleifion ar y cam cyswllt cyntaf.  Er mwyn hwyluso pethau i bobl, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno gofyniad cytundebol i'r holl bractisau meddygon teulu gynnig mwy o apwyntiadau ar-lein gan ddefnyddio Fy Iechyd Ar-lein. Bydd pob practis yng Nghymru yn gallu cynnig Fy Iechyd Ar-lein, ac mae 60% ohonynt yn defnyddio gwasanaethau Fy Iechyd Ar-lein ar hyn o bryd.   Mae camau penodol ar waith i gynyddu'r nifer sy'n defnyddio Fy Iechyd Ar-lein - er enghraifft, erbyn mis Ionawr 2016, system ar-lein symlach i gofrestru ar gyfer Fy Iechyd Ar-lein heb fod angen mynd i'r feddygfa i gofrestru'n bersonol; ap i'w ddefnyddio ar Ffonau Deallus; cymorth rheng flaen i gleifion drwy Galw Iechyd Cymru; ail-lansio Fy Iechyd Ar-lein drwy ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus / cyhoeddusrwydd.

 

Y Cynllun Mân Anhwylderau

Cyflwynwyd gwasanaeth Dewis Fferyllfa (mân anhwylderau) mewn 32 o fferyllfeydd mewn dau safle braenaru ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Medi 2013.  Sefydlwyd y safleoedd braenaru er mwyn profi'r model gwasanaeth. Yn benodol, byddai'r safleoedd braenaru yn profi p'un y gellid trosglwyddo'r gwaith o reoli mân anhwylderau o feddygon teulu i fferyllfeydd cymunedol ac os felly, i ba raddau y gellid gwneud hynny. Byddai unrhyw benderfyniad i gyflwyno'r gwasanaeth yn genedlaethol yn dibynnu ar p'un a fyddai modd dangos bod Dewis Fferyllfa yn ateb amgen gwirioneddol i'r trefniadau presennol ar gyfer rheoli mân anhwylderau cyffredin.

 

Canfu gwerthusiad annibynnol o wasanaeth Dewis Fferyllfa ei fod wedi'i gynllunio a'i weithredu'n dda, a'i fod yn debygol ei fod yn cyflawni ei brif amcan, sef lleihau'r galw am apwyntiadau â meddygon teulu a'r presgripsiynau cysylltiedig am feddyginiaethau ar gyfer mân anhwylderau  Fodd bynnag, roedd y canlyniadau'n amwys a gwelwyd amrywiadau mawr mewn gweithgarwch rhwng fferyllfeydd. Ni thynnodd y gwerthusiad sylw at unrhyw arbedion mawr a fyddai'n rhyddhau arian.  Nodwyd bod sawl amod y mae angen eu bodloni er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael eu budd mwyaf,  gan gynnwys: cydberthnasau gwaith da a sefydledig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd; cymorth gan feddygon teulu i hyrwyddo'r gwasanaeth; a dealltwriaeth dda o'r gwasanaeth ymhlith meddygon teulu a thimau practisau. 

 

Daw'r safleoedd braenaru i ben ym mis Mawrth 2016 a chaiff penderfyniad ynghylch trefniadau Dewis Fferyllfa yn y dyfodol ei wneud yn y cyfamser.

 

Ychwanegu at Fywyd

Archwiliad iechyd a lles i bobl 50 oed neu drosodd yw Ychwanegu at Fywyd, a chafodd ei gyflwyno'n genedlaethol ym mis Ebrill 2014.  Mae'n hunanasesiad cyfrinachol a hawdd ei ddefnyddio y gellir ei gyflawni ar-lein neu dros y ffôn gyda chymorth Galw Iechyd Cymru.  Mae Ychwanegu at Fywyd yn rhoi cyfle i bobl 50 oed neu drosodd gael darlun cyffredinol o'u hiechyd, ac mae'n eu helpu i wella eu hiechyd a'u lles mewn camau bach, realistig, yn ogystal â gwella mynediad i'r gwasanaethau atal mwyaf effeithiol.

 

Ers i Ychwanegu at Fywyd gael ei gyflwyno'n genedlaethol, mae dros 23,000 o bobl wedi ymweld â'r wefan ac mae bron 12,000 wedi cwblhau asesiadau iechyd a lles. 

 

Lansiwyd y fersiwn ddiweddaraf o Ychwanegu at Fywyd ar 22 Ebrill 2015 ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gyflwyno a datblygu'r asesiad mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr.

 

Gwasanaeth 111 GIG Cymru

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant Galw Iechyd Cymru a chynnig un rhif sydd ar gael drwy'r dydd, bob dydd, y gall cleifion ei ddefnyddio i gael gafael ar ofal iechyd nad yw'n argyfwng yng Nghymru. Agwedd bwysig ar hyn fydd integreiddio galwadau lleol a wneir y tu allan i oriau.  Gwneir hyn drwy gyflwyno gwasanaeth y gall pobl ei ddefnyddio drwy'r rhif rhad 111 y mae Ofcom wedi'i ddyrannu ar gyfer anghenion gofal iechyd brys (ond nad ydynt yn argyfyngus). Caiff gwasanaeth braenaru ar gyfer rhif 111 y GIG ei gyflwyno flwyddyn nesaf, gan gyfuno'r system bresennol ar gyfer ateb galwadau ffôn y tu allan i oriau a brysbennu cychwynnol a'r gwasanaethau a ddarperir gan Galw Iechyd Cymru yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.  Drwy hyn, bydd modd profi'r gwasanaeth yn drylwyr yn barod i'w gyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol a bydd modd mireinio'r costau manwl ar yr un pryd.

 

Gofal Lliniarol

Lansiwyd Law yn Llaw at Iechyd - Darparu Gofal Diwedd Oes ar 18 Ebrill 2013. Mae'r cynllun yn nodi ein disgwyliadau i GIG Cymru weithio gyda phartneriaid, yn enwedig y sector hosbisau a gofal cymdeithasol, er mwyn lleihau anghydraddoldebau o ran gofal diwedd oes.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £6.4m bob blwyddyn i fyrddau iechyd a hosbisau ar gyfer gofal diwedd oes yng Nghymru.  Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddwyd £1m ychwanegol i hwyluso blaenoriaethau'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Diwedd Oes.  Caiff y rhan fwyaf o'r buddsoddiad newydd hwn ei ddefnyddio i ehangu'r ddarpariaeth hosbis yn y cartref ledled Cymru, a defnyddir y gweddill i gefnogi mentrau gofal diwedd oes. Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae cyngor arbenigol ar ofal lliniarol ar gael drwy'r dydd, bob dydd, i weithwyr proffesiynol sy'n gofalu am gleifion yn eu cartrefi, mewn hosbisau ac ysbytai.  Mae nyrsys gofal lliniarol arbenigol ar gael saith diwrnod yr wythnos ledled Cymru hefyd.Un o'r prif bethau y mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Diwedd Oes yn canolbwyntio arno yw annog unigolion i drafod trefniadau diwedd oes gyda'u teuluoedd a'u cynhalwyr er mwyn sicrhau bod eu gofal yn cael ei gynllunio'n effeithiol. Cynhaliwyd dwy gynhadledd ym mis Mai 2014 er mwyn ysgogi sgwrs genedlaethol am ddiwedd oes. Y llynedd, lansiwyd 'Byw Nawr', sef ymgyrch gyhoeddus i hyrwyddo, annog a chefnogi sgyrsiau am ddiwedd oes. 

 

Gofal y llygaid

Rydym yn parhau i adeiladu ar bolisi sydd wedi bod ar waith ers 2001.  Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, datblygwyd y gwasanaeth cenedlaethol Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru, er mwyn galluogi optometryddion i gynnal archwiliadau iechyd llygaid mewn gofal sylfaenol a lleihau'r problemau o ran capasiti a galw sy'n wynebu gwasanaethau llygaid gofal eilaidd yn yr ysbyty.  Gan adeiladu ar y datblygiad polisi hwn, darparodd y Gronfa Technoleg Iechyd a Telefeddygaeth £1.0m i wella systemau cyfathrebu a chyflymu trefniadau atgyfeirio rhwng gofal sylfaneol ac eilaidd a'i gwneud yn bosibl i ryddhau mwy o bobl i'r gymuned yn ddiogel.  Mae'r gwaith yn mynd rhagddo.

 

Sefydlu Canolfannau Diagnosteg a Thriniaeth Offthalmig mewn lleoliadau allweddol ledled Cymru er mwyn cyflymu a gwella gofal y llygaid.

Cadarnhaodd archwiliadau'r Uned Gyflawni yn 2015 bod canolfannau ar gael ym mhob bwrdd iechyd i ateb y problemau o ran capasiti a galw mewn gofal eilaidd.  Ategir y gwaith hwn gan y Ffocws ar Lwybrau Gofal Cleifion Offthalmoleg.

 

Disgwyl i fyrddau iechyd fonitro gwasanaethau Dirywiad Macwlaidd Gwlyb sy'n gysylltiedig â Henaint yn eu hardal leol er mwyn sicrhau y darperir triniaeth yn briodol yn unol â phrotocol Cymru gyfan.

Mae hyn yn ailddatgan polisi sydd eisoes wedi bod ar waith ers 2008 ac yn cyd-fynd ag argymhellion NICE.  Mae byrddau iechyd yn parhau i wneud newidiadau er mwyn datblygu capasiti ac i gefnogi'r gwaith hwn, darparwyd £0.5m i sefydlu pedwar peilot i ddarparu gwasanaethau o fewn gofal sylfaenol er mwyn gwella profiadau cleifion yn unol ag egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus a'r argymhellion a nodir yn Law yn Llaw at Iechyd:  Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Iechyd Llygaid 2013-18. 

 

Ei gwneud yn ofynnol i Wasanaeth Golwg Gwan Cymru ddarparu gwell gwasanaethau ar gyfer golwg gwan ledled Cymru er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i bob claf.

Cadarnhaodd yr archwiliad diweddaraf o'r Gwasanaeth, a gynhelir bob tair blynedd, bod y gwasanaeth ar gael ym mhob bwrdd iechyd er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i bob claf.  Mae gwasanaeth cenedlaethol ar gael, a weinyddir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ran yr holl fyrddau iechyd, i alluogi optometryddion i asesu golwg gwan, presgripsiynu, archebu a chyflenwi cymhorthion golwg gwan i gleifion, na ellir rhoi rhagor o driniaeth iddynt.

 

Cynllun Gwên

Bydd rhaglen 'Cynllun Gwên' yn parhau i gael buddsoddiad o £3.7m yn 2016-17.  Mae'r cyllid hwn wedi'i gynnwys o fewn y dyraniad deintyddol rheolaidd sydd wedi'i glustnodi o dan y Cam Gweithredu Cyflenwi Gwasanaethau GIG Craidd. 

 

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod gwaith dadansoddi data cynnar yn awgrymu bod pydredd dannedd ymhlith plant cyffredin sy'n mynychu'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn gwella. Bydd yr Arolwg Epidemioleg Deintyddol o blant pum mlwydd oed yn 2015-16 yn rhoi darlun cliriach o effaith y rhaglen.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflwyno ein polisi drwy ddechrau gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Mae'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn y MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cynyddu o £62m yn 2015-16 i £68m yn 2016-17. Mae'r elfen ychwanegol yn ymwneud ag effaith y mewndrosglwyddiad o'r Gronfa Byw'n Annibynnol drwy gydol y flwyddyn. Mae £21m ychwanegol ar gael i wasanaethau cymdeithasol yn y Gyllideb Ddrafft hefyd, a ddarperir yn uniongyrchol i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth newydd. Bydd y cyllid hwn a'r cyllid rydym wedi'i roi i awdurdodau lleol a'u partneriaid i'w helpu i newid i'r trefniadau newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn galluogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i fod yn hyderus yn eu gallu i weithio mewn ffyrdd newydd a rhoi trefniadau integredig newydd ar waith.

Bydd grant y trydydd sector yn helpu i weithredu egwyddorion a pholisi'r Ddeddf.

 

Yng Nghyllideb Ddrafft y llynedd, dyrannodd Llywodraeth y DU £27m ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Byw'n Annibynnol. Fel rhan o raglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU, trefnwyd y byddai'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn cau ar 31 Mawrth 2015, gyda'r cyfrifoldeb am redeg y gronfa yn cael ei ddatganoli. Yn ystod 2014-15, gohiriwyd dyddiad cau'r Gronfa tan 30 Mehefin 2015, felly cafwyd trosglwyddiad llai gan Drysorlys EM a oedd yn cyfateb i naw mis o gyllid ar gyfer 2015-16. Mae'r cynnydd mewn cyllid yn 2016-17 yn golygu bod y gyllideb wedi tyfu eto i'r dyraniad gwreiddiol ar gyfer y flwyddyn gyfan, sef £27m.